Mae un o hoff gyrsiau golff Cymro fu’n gapten buddugol Cwpan Ryder, Dai Rees, wedi adeiladu cyfleusterau academi modern newydd, diolch i’r ffaith fod Cwpan Ryder yn dod i Gymru eleni.
Mae’r cwrs golff hynaf yng Nghymru ar fin cael gwedd newydd gwbl fodern i’r cyfleusterau ymarfer a datblygu, diolch i gymorth oddi wrth Gronfa Dreftadaeth Cwpan Ryder Cymru.
Mae clybiau golff ledled Cymru sydd wedi dangos eu hymrwymiad i ddatblygu golff iau wedi’u gwobrwyo â thocynnau i Ddiwrnodau Ymarfer swyddogol Cwpan Ryder 2010.
Mae Capten Ewrop Cwpan Ryder Cymru Colin Montgomerie wedi enwi Thomas Björn, Darren Clarke a Paul McGinley i fod yn Is-gapteiniaid Tîm Ewropeaidd 2010.
Mae Her SWALEC Cymru’n bwriadu efelychu’r Bencampwriaeth Agored trwy gynnig cystadleuaeth gymhwyso, felly mae yna gyfle i unrhyw golffiwr proffesiynol Cymreig ddilyn ôl-troed seren y Daith Ewropeaidd, Rhys Davies.
Mae seren Cwpan Solheim, Becky Brewerton, yn gobeithio y bydd dod adref yn werth chweil pan fydd yn taro’r bêl o’r ti ym Mhencampwriaeth Merched Ewrop S4C Cymru yng Nghonwy y mis nesaf, sef pencampwriaeth y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ei gefnogi.
Caiff mwy na 150 o wirfoddolwyr y cyfle i ddod wyneb yn wyneb â rhai o ferched mwyaf llwyddiannus byd golff Ewrop, pan ddaw Pencampwriaeth Ewrop S4C Cymru i Glwb Golff Conwy (Sir Gaernarfon) ym mis Awst.
Cadwodd Richard Dinsdale ei blwc a herio’r gwynt a’r glaw i sicrhau buddugoliaeth gartref ym Mhencampwriaeth Agored Chwaraewyr Proffesiynol PGA Cymru Cwpan Ryder Cymru 2010.
Bydd Arddangosfa Dreftadaeth Cwpan Ryder, sy’n darlunio hanes cyfoethog un o ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf symbylol y byd, i’w gweld yng Nghasnewydd a Chaerdydd trwy’r haf wrth i ornest Cwpan Ryder 2010 ddod yn agosach ac yn agosach.
23 Mehefin 2010: Wrth i’r genedl ddechrau cyfri’n ôl o 100 o ddiwrnodau i ornest Cwpan Ryder yng Nghymru, cyhoeddir mai Katherine Jenkins yw'r artist cyntaf o fri i gadarnhau y bydd yn perfformio yn ‘Croeso i Gymru’.