Cwpan Ryder yn helpu i wneud golff Dinbych-y-pysgod yn gyfoes

Dyddiad Cyhoeddi: 29/07/2010
Clwb golff Dinbych-y-pysgod
Clwb golff Dinbych-y-pysgod

Mae un o hoff gyrsiau golff Cymro fu’n gapten buddugol Cwpan Ryder, Dai Rees, wedi adeiladu cyfleusterau academi modern newydd, diolch i’r ffaith fod Cwpan Ryder yn dod i Gymru eleni.

Clwb golff Dinbych-y-pysgod yw’r un hynaf yng Nghymru, ac un o’r hoff gyrsiau ymhlith chwaraewyr, a bydd yn croesawu Pencampwriaeth Amatur Cymru a Phencampwriaeth Ergydion Merched Prydain yr haf yma. Mae cylchgrawn Today's Golfer hefyd wedi’i gynnwys yn ei 10 cwrs gwerth uchaf yn y wlad ac mae ymhlith y 100 cwrs ar y brig gan Golf World.

Nawr, mae’r cyfleusterau ymarfer a dysgu wedi’u huwchraddio i gyfateb i ansawdd a hanes y cwrs twyni, gydag ardal tri thwll newydd wedi’i hychwanegu ar gyfer rhai newydd i’r gêm, diolch i grant gwerth £80,000 oddi wrth Gronfa Dreftadaeth Cwpan Ryder Cymru.

Mae gan glwb Dinbych-y-pysgod gysylltiadau cryf â Chwpan Ryder, ac mae’r trydydd twll wedi’i enwi ar ôl Dai Rees, y capten buddugol a chwaraeodd yn yr ornest yn Lindrick ym 1957, sef yr unig fuddugoliaeth i Brydain Fawr ac Iwerddon er 1933 – ac ni threchwyd yr Americanwyr eto tan i’r tîm Ewropeaidd ennill yn y Belfry ym 1985.

Mae’r clwb hefyd wedi gwneud ymdrech anferthol i ddod o hyd i sêr y dyfodol, gyda mwy na 200 o fechgyn, merched, dynion a menywod yn dilyn y cynlluniau i ddechreuwyr a redir gan chwaraewr proffesiynol y clwb, Rhys Harry, sef chwaraewr clwb proffesiynol y flwyddyn Undeb Golff Cymru.

Bydd y cyfleusterau newydd yn helpu i ddatblygu’r broses honno, gyda maes dreifio 300 llath priodol, ardal ymarfer y gêm fer sydd wedi’i gwella a thri thwll byr newydd, ar safle wyth erw yr oedd angen ei adfer gan fod chwyn rhafnwydd y môr wedi tyfu’n wyllt yno.

“Roedd gennym ni ardal o rafnwydd y môr gwyllt roedd y Comisiwn Cefn Gwlad eisiau i ni ei chlirio, a hefyd roedd angen y cyfleusterau newydd hyn arnom ni – er enghraifft, yr hen dwll cyntaf oedd ein maes dreifio blaenorol, felly roedd yn gul iawn gyda thro cam," esboniodd ysgrifennydd Dinbych-y-pysgod, David Hancock.

“Ni allen ni fod wedi fforddio ei wneud ein hunain, felly pan ddaeth grantiau Cronfa Dreftadaeth Cwpan Ryder Cymru ar gael, roedden ni’n meddwl y buasai hyn yn ffordd ddelfrydol o ladd dwy frân ag un ergyd.

“Nawr, mae gennym ni ardal ddreifio lydan, ardal tsipio a bynceri gwell, yn ogystal â'r tri thwll, a gall hyn oll helpu pobl sy'n dechrau rhoi cynnig ar y gêm a hefyd unrhyw un arall sydd am weithio ar eu techneg.”

Clwb Dinbych-y-pysgod oedd yr un cyntaf yng Nghymru i ddod yn gysylltiedig ag Undeb Golff Cymru, a sefydlwyd ef yn swyddogol ym 1888, er bod yna gofnodion o bobl yn chwarae golff yno ym 1875.

Mae’r clwb wedi gwneud gwaith gwych wrth fynd â golff i'r bobl yn yr ardal, ac mae'r llety sydd wedi’i uwchraddio ar y cwrs hefyd wedi cynyddu’r potensial ar gyfer twristiaid yn un o’r cyrsiau yng Nghymru sy’n fwyaf poblogaidd ymhlith ymwelwyr – wedi’i ddylunio gan y pensaer golff, James Braid, a oedd hefyd yn gyfrifol am ddylunio Gleneagles a Carnoustie.

“Daeth James Braid i ymweld â ni deirgwaith, ac mae llawer o’r cwrs fwy neu lai yr un fath ag ydoedd pan adawodd ar ôl ei drydydd ymweliad, felly roedd yn wych cael y cyfle i uwchraddio’r cyfleusterau o amgylch y cwrs,” esboniodd Hancock.

“Rydyn ni wedi cynnal sawl Pencampwriaeth Amatur Cymru, a byddwn ni’n croesawu un arall cyn bo hir. Yna, y mis nesaf, bydd Pencampwriaeth Ergydion Merched Prydain yn dod yma, ac mae hi bob amser yn braf croesawu digwyddiad Prydeinig yma.

“Felly mae gan y cwrs yr ansawdd a’r hanes, ond rydyn ni hefyd yn ymwybodol o'r angen i ddatblygu'r gêm, ac rydyn ni'n awyddus i'w wneud yn lle digyffro ei naws ar gyfer aelodau, ymwelwyr a dechreuwyr fel ei gilydd.

“Mae’r cyfleusterau academi newydd yn dangos nad oes yn rhaid ichi fod yn chwaraewr profiadol i ddod yma.

“Diolch i gymorth Datblygu Golff Cymru a gwaith ein chwaraewr proffesiynol, Rhys, mae mwy na mil o fenywod a chwaraewyr iau wedi cael eu hyfforddi trwy’r clwb, yn ogystal â dynion sydd wedi bod yn dilyn cynlluniau mwy diweddar wrth iddyn nhw dynnu at ddiwedd eu gyrfaoedd rygbi neu bêl-droed.

“Dechreuodd hyn oll cyn y cyfleusterau academi, felly rydyn ni’n gobeithio y bydd yna hwrdd newydd o ddiddordeb nawr bod gennym ni le priodol i wneud hyn i gyd.”

Croesawyd y datblygiadau newydd gan Gadeirydd Cwpan Ryder Cymru, John Jermine, sydd wedi cystadlu ym Mhencampwriaethau Amatur Cymru ar y cwrs twyni.

“Mae’n rhagorol gweld un o’n cyrsiau mwyaf hanesyddol yn gwneud cymaint i wella'r gamp yn eu hardal, ac mae'n wych bod Cwpan Ryder Cymru wedi gallu helpu'r broses," meddai.

“Bydd unrhyw un sydd wedi chwarae yn Ninbych-y-pysgod yn gwybod ei fod yn gwrs ardderchog, a bydd y cyfleusterau ymarfer newydd yn ei wneud yn gwrs pencampwriaeth gwell fyth.

“Mae croesawu digwyddiadau fel Pencampwriaeth Ergydion Merched Prydain yn deyrnged aruthrol i’r cwrs, ac mae'r bartneriaeth â Golff Sir Benfro wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth ddenu chwaraewyr newydd i'r gêm. Mae croesawu Cwpan Ryder wedi’n galluogi i helpu clybiau ledled Cymru, a dylid canmol aelodau clwb Dinbych-y-pysgod am gefnogi’r fenter hon sydd wedi’i chynllunio i helpu chwaraewyr newydd, yn enwedig pobl ifanc a menywod, gan y bydd llawer ohonyn nhw’n dod yn aelodau yn y dyfodol ac yn mwynhau pleser y gêm ragorol hon gydol eu hoes.

Gwahoddwyd pob Awdurdod Lleol a chlwb yng Nghymru i wneud cais am grantiau o Gronfa Dreftadaeth Cwpan Ryder, ac mae 28 clwb wedi bod yn llwyddiannus. Yn gyfan gwbl, mae’r Gronfa Dreftadaeth, a ariannwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, wedi helpu i adeiladu mwy na 200 o dyllau newydd a 32 o grîns tsipio a phytio, gan wneud golff yn hygyrch i bawb trwy ddarparu cyfleusterau o safon ledled Cymru, boed yn rhai newydd neu’n rhai sydd wedi’u gwella, i’r 75,000 o bobl ifanc a gyflwynwyd i’r gêm gan sefydliad Datblygu Golff Cymru yn ystod y saith mlynedd diwethaf.