
Mae’r cwrs golff hynaf yng Nghymru ar fin cael gwedd newydd gwbl fodern i’r cyfleusterau ymarfer a datblygu, diolch i gymorth oddi wrth Gronfa Dreftadaeth Cwpan Ryder Cymru.
Ni fu rhyw lawer o newid o gwbl i golff yn y Borth ac Ynyslas yng Ngheredigion ers iddo ddechrau mwy na 50 mlynedd cyn yr ornest Cwpan Ryder gyntaf, ond mae’r cyfleusterau newydd, sydd wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer chwaraewyr iau a rhai newydd i’r gêm, yn etifeddiaeth barhaol yn sgil Cymru’n croesawu 38ain gornest Cwpan Ryder ym mis Hydref.
Mae’r clwb, sydd mor hanesyddol, â’i lygad yn bendant ar y dyfodol, a bydd ei aelodaeth o Fforwm Golff Iau Ceredigion yn helpu i hybu’r cyfleusterau newydd, sef cwrs chwe thwll yn ogystal â grîn ymarfer ac ardal y gêm fer.
Bydd yn caniatáu i’r clwb ddatblygu golffwyr o bob safon yn well fyth, a'r gobaith yw y bydd rhai yn dilyn ôl troed chwaraewyr iau rhyngwladol Cymru o’r clwb, sef Zach Galliford ac Angharad Basnett.
Mae grant gwerth tua £35,000 oddi wrth Gronfa Dreftadaeth Cwpan Ryder Cymru wedi caniatáu i’r clwb newid ei faes ymarfer a rhywfaint o dir a oedd wedi tyfu’n wyllt yn gwrs chwe thwll gyda phedwar twll par 3 a dau dwll par 4, ond gyda’r un naws â’r cwrs Pencampwriaeth 18 twll cyfagos.
Mae’n llai o her i chwaraewyr iau a rhai sy’n dechrau ar y gêm, ac mae’n ardal ymarfer hynod ddefnyddiol i aelodau ac ymwelwyr, gyda grîn ymarfer ac ardal bynceri newydd.
“Mae gennym ni adran chwaraewyr iau gref iawn yma yn y Borth, felly mae’n ardal ddatblygu dda iddyn nhw, ond mae hefyd yn ardal y gallwn ni ei chynnig i’r cyhoedd hefyd,” esboniodd llywydd y clwb, Mike Price.
“Mae’n bendant yn rhywbeth na fydden ni wedi’i ystyried heb yr arian o Gronfa Dreftadaeth Cwpan Ryder Cymru, ac roedden ni’n ffodus bod gennym ni dir yma i’w ddefnyddio, gan fod ein cwrs ar lain gul ar hyd yr arfordir, gyda’r gosodiad clasurol o wyth twll ar i allan a deg twll yn ôl i mewn.
“Mae’n gwrs bach eithaf anodd i chwarae arno, ac mae’n creu llawer o ddiddordeb ymhlith ein haelodau.
“Mae yna gofnod o bobl yn chwarae golff ar y cwrs hwn mor bell yn ôl â 1876, felly rydyn ni’n meddwl bod hynny’n golygu mai hwn yw'r cwrs hynaf yng Nghymru. Bu fawr ddim newid i’r grîns ers hynny; yn ei hanfod, yr un cwrs ydyw, er ein bod wedi uwchraddio’r tiau, y bynceri ac ati.
“Nawr, mae gennym ni’r ardal ymarfer newydd yma, sy’n gam mawr ymlaen i ni. Rydyn ni’n gobeithio y bydd hyn yn para am ryw 130 yn fwy o flynyddoedd, yn union fel y prif gwrs hyd yma.”
Mae Mark Lewis, sef deiliad record y cwrs yn y Borth â sgôr o 63 ac aelod o’r staff sy’n gofalu am y grîns, yn un o’r bobl sydd wedi bod yn adeiladu’r cyfleuster newydd.
Er bod Dinbych-y-pysgod a Phontnewydd ill dau yn hawlio mae nhw yw’r clwb hynaf yng Nghymru, mae’r Borth ac Ynyslas o’r farn bod cofnodion mewn ysgol fonedd yn Lloegr, sy’n dangos eu bod yn chwarae golff ar y tir ger Aberystwyth ym 1876, yn golygu mai nhw oedd â’r cwrs hynaf go iawn yng Nghymru, ychydig o flynyddoedd cyn sefydlu clwb.
“Mae’n wych gweld cyfleusterau o’r fath yn cael eu datblygu yn un o’r clybiau mwyaf traddodiadol yng Nghymru,” meddai cadeirydd Cwpan Ryder Cymru, John Jermine.
“Mae yna rai cyrsiau rhagorol ar arfordir Gorllewin Cymru, ac mae angen i ni annog chwaraewyr newydd i gêm y gallan nhw ei mwynhau gydol eu hoes, yn ogystal â sicrhau bod clybiau’n mynd o nerth i nerth yn y dyfodol.”
“Gyda chlwbdy modern ardderchog a’r olygfa arbennig iawn yn tremio dros Fae Ceredigion, mae'r Borth, sydd yn union hanner ffordd rhwng y gogledd a'r de, yn lle gwych i chwarae golff ac rydyn ni o’r farn y bydd y cwrs byr newydd yn helpu’r clwb i ddatblygu golff yn yr ardal leol. Rydyn ni’n llongyfarch y clwb ar fenter ragorol yr ydyn ni wrth ein bodd o’i chefnogi.”
Gwahoddwyd pob Awdurdod Lleol a chlwb yng Nghymru i wneud cais am grantiau o Gronfa Dreftadaeth Cwpan Ryder, ac mae 28 clwb wedi bod yn llwyddiannus. Yn gyfan gwbl, mae’r Gronfa Dreftadaeth, a ariannwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, wedi helpu i adeiladu mwy na 200 o dyllau newydd a 32 o grîns tsipio a phytio, gan wneud golff yn hygyrch i bawb trwy ddarparu cyfleusterau o safon ledled Cymru, boed yn rhai newydd neu’n rhai sydd wedi’u gwella, i’r 75,000 o bobl ifanc a gyflwynwyd i’r gêm gan sefydliad Datblygu Golff Cymru yn ystod y saith mlynedd diwethaf.