
Mae clybiau golff ledled Cymru sydd wedi dangos eu hymrwymiad i ddatblygu golff iau wedi’u gwobrwyo â thocynnau i Ddiwrnodau Ymarfer swyddogol Cwpan Ryder 2010.
Mae Cwpan Ryder Ewrop wedi sicrhau bod 1500 o docynnau ar gael trwy Datblygu Golff Cymru, sef y corff a sefydlwyd i ddatblygu a hybu’r gêm yng Nghymru. Bydd Datblygu Golff Cymru'n defnyddio’r dyraniad tocynnau ar gyfer y Diwrnodau Ymarfer ar y dydd Mawrth a’r dydd Mercher i wobrwyo’r clybiau hynny sydd wedi ymuno’n llwyddiannus â’i gynllun Achredu Clybiau Iau, sef menter a lansiwyd yn 2008.
Hyd yma, mae 33 o glybiau yng Nghymru wedi cyflawni’r meini prawf angenrheidiol a gyfer yr achrediad a ddyfernir i glybiau sy’n cyfrannu at gynyddu nifer y bobl ifanc sy’n chwarae golff, ac sy’n darparu profiad o ansawdd sy’n hwyl i’w haelodau iau. Mae’r cynllun achredu’n dal i fod yn derbyn ceisiadau, a defnyddir dyraniad tocynnau Cwpan Ryder fel cymhelliad i fwy o glybiau roi cynnig arno cyn cynnal yr ornest ei hun yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Dinas Casnewydd rhwng 1 a 3 Hydref.
Bydd rhan o’r dyraniad tocynnau hefyd yn cael ei rhoi i’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru sy’n hybu golff trwy fentrau Campau’r Ddraig a ‘5x60’.
Meddai Hannah Fitzpatrick o Datblygu Golff Cymru: “Mae bod ag adrannau iau rhagweithiol a llwyddiannus mewn clybiau golff ledled Cymru'n hanfodol os ydyn ni am wireddu effaith bositif lawn croesawu Cwpan Ryder er mwyn datblygu’r gêm yng Nghymru. Mae’r tocynnau hyn yn ffordd arall i gydnabod y clybiau hynny, yn ogystal â’n partneriaid lleol mewn awdurdodau lleol sydd wedi bod yn gweithio gyda ni i hybu golff i bobl ifanc.”
Meddai Richard Hills, Cyfarwyddwr Cwpan Ryder Ewrop: “Mae’n bleser gennym allu cynnig tocynnau ar gyfer y Diwrnodau Ymarfer ar y dydd Mawrth a’r dydd Mercher, gan gydnabod mwy fyth y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud yng Nghymru i hybu’r gêm i bobl ifanc. Bydd tocynnau’r Diwrnodau Ymarfer yn galluogi golffwyr iau, gyda goruchwylwyr sy’n oedolion, i wylio'r chwaraewyr gorau yn y byd wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer yr ornest, a chael profiad o hud Cwpan Ryder drostyn nhw eu hunain."
Yr wythnos ddiwethaf, rhyddhawyd nifer ategol o docynnau Mynediad i’r Maes ar ddiwrnodau gornest Cwpan Ryder fesul un i bobl sydd wedi cofrestru eu manylion ac wedi llwyddo i lanlwytho ffotograff ohonyn nhw eu hunain ar arddull pasport. Mae tocynnau ar gyfer pob un o’r tri Diwrnod Ymarfer, gan gynnwys Dydd Iau 30ain Medi a’r Seremoni Agor swyddogol, hefyd yn dal i fod ar gael ar sail y cyntaf i’r felin. Gall cwsmeriaid nad ydyn nhw eisoes wedi cofrestru wneud hynny yma: www.seetickets.com/rydercupsales
Mae pob tocyn Mynediad i’r Maes ar gyfer mynediad dyddiol, ac nid oes modd eu trosglwyddo. Mae tocynnau ar gyfer Dydd Gwener 1 Hydref a Dydd Sadwrn 2 Hydref yn costio £100 yr un ac mae tocynnau ar gyfer Dydd Sul 3 Hydref yn £130 yr un. Mae pasys cludiant, gyda mynediad i gyfleusterau Parcio a Theithio, hefyd ar gael am £20 y dydd fesul car. Rhaid archebu’r holl docynnau trwy www.seetickets.com/rydercupsales a bydd gofyn i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno ffotograff ar arddull pasport.
Mae tocynnau Diwrnodau Ymarfer ar gyfer Dydd Mawrth 28 Medi a Dydd Mercher 29 Medi hefyd ar gael am £30 yr un, yn ogystal â thocynnau ar gyfer Dydd Iau 30 Medi, pan gynhelir y Seremoni Agor, am £40.