Montgomerie yn cyhoeddi mai Björn, Clarke a McGinley fydd ei Is-gapteiniaid

Dyddiad Cyhoeddi: 20/07/2010
Colin Montgomerie, Thomas Björn, Darren Clarke a Paul McGinley
Colin Montgomerie, Thomas Björn, Darren Clarke a Paul McGinley

Mae Capten Ewrop Cwpan Ryder Cymru Colin Montgomerie wedi enwi Thomas Björn, Darren Clarke a Paul McGinley i fod yn Is-gapteiniaid Tîm Ewropeaidd 2010.

Mae Björn, Clarke a McGinley rhyngddyn nhw wedi chwarae mewn deg gornest Cwpan Ryder, a chyhoeddwyd eu henwau heddiw yn ystod cynhadledd i’r wasg ym Mhencadlys y Daith Ewropeaidd yng Nghlwb Wentworth. Maen nhw’n dod â chyfoeth o brofiad a llwyddiant i dîm ystafell gefn Montgomerie, gan obeithio ailgipio Cwpan Ryder yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Dinas Casnewydd, Cymru, rhwng 1 a 3 Hydref, 2010.

Meddai Montgomerie: “Mae Cwpan Ryder yn galw am angerdd, ymrwymiad a’r ewyllys i ennill, ac mae pob un o’r tri gŵr rwyf wedi’u henwi heddiw i fod yn Is-gapteiniaid yn meddu ar ddigonedd o’r rhinweddau hyn.

“Mae Thomas Björn, Darren Clarke a Paul McGinley yn chwaraewyr hynod brofiadol y mae pawb ym myd golff yn eu parchu a’u hedmygu. Mae pob un ohonyn nhw wedi bod yn rhan o Dimau Ewropeaidd llwyddiannus Cwpan Ryder yn y gorffennol, ac maen nhw’n adnabod y chwaraewyr a fydd yn rhan o’m Tîm yn y Celtic Manor ym mis Hydref cystal at unrhyw un.

“Rwyf wrth fy modd o'u cael wrth f'ymyl wrth i ni anelu am Gymru, ac rwy'n gwybod y byddan nhw o gymorth gwerthfawr iawn i mi ac unrhyw un sy'n gysylltiedig â'r Tîm, â’n nod o ailgipio Cwpan Ryder.”

Mae Björn, sef y gŵr cyntaf o Denmarc i chwarae ar dîm Cwpan Ryder ym 1997, wedi cynrychioli Ewrop ddwywaith yn yr ornest a gynhelir bob dwy flynedd yn erbyn yr Unol Daleithiau, a bu ar y tîm buddugol y ddau dro, gyda buddugoliaeth yn 2001 yn y Belfry yn dilyn llwyddiant 1997 yn Valderrama. Fel chwaraewr mae ganddo hanes yng ngornest Cwpan Ryder o fod wedi chwarae 6, ennill 3, colli 2 a dod yn gyfartal mewn 1 ac mae hefyd wedi bod yn gynorthwyydd i Bernhard Langer yn 2004 yn Oakland Hills. Mae Björn hefyd wedi bod yn Gapten ar Gyfandir Ewrop yn Nhlws Vivendi gyda Seve Ballesteros.

Mae Clarke wedi chwarae ar bum tîm Ewropeaidd Cwpan Ryder, ac wedi cael blas ar y fuddugoliaeth ar bedwar o’r achlysuron hynny. Fel Björn, roedd y tîm yn fuddugol y tro cyntaf iddo chwarae iddo ym 1997 yn Valderrama, ac ar ôl colli yn y Country Club, Brookline, ym 1999, chwaraeodd ran allweddol y tro cyntaf i Ewrop daro’r tri pan ddaeth yn fuddugol yn 2002, 2004 a 2006. Yn 2006 yn y K Club, fe helpodd ei berfformiad ysbrydoledig Ewrop i ennill am y trydydd tro yn olynol, gan ennill o naw pwynt, sef sgôr a oedd yn gyfartal â'r record. O’r 20 gêm y mae Clarke wedi eu chwarae, mae wedi ennill 10, colli 7 a dod yn gyfartal mewn 3, a’i bartneriaeth ef â Lee Westwood oedd y bartneriaeth fwyaf llwyddiannus ond un yn hanes Cwpan Ryder, gan iddyn nhw ennill chwech o’u hwyth gêm gyda’i gilydd.

Mae McGinley wedi ymddangos yng Nghwpan Ryder deirgwaith, ac mae’n enwog am suddo’r pyt buddugol yn 2002 yn y Belfry, ac yna rhannu llwyddiannau 2004 a 2006 a dorrodd y record. Ysgogodd McGinley lawenydd mawr ar y 18fed grîn yn y Belfry pan ddaeth yn gyfartal yn ei rownd senglau â Jim Furyk, i ddod â’r fuddugoliaeth i Ewrop. Cafodd flas ar fwy o lwyddiant yn 2004 yn Oakland Hills ac yna ar dir cartref yn 2006 yn y K Club, cyn dod yn gapten ar dîm Prydain Fawr ac Iwerddon a gurodd Cyfandir Ewrop yn Nhlws Vivendi gyda Seve Ballesteros y mis Medi diwethaf. Mae ganddo hanes yng Nghwpan Ryder o fod wedi chwarae 9, ennill 2, colli 2 a dod yn gyfartal mewn 5.

Bydd y naw aelod a fydd yn cymhwyso’n awtomatig i chwarae ar Dîm Ewropeaidd Cwpan Ryder, sef pedwar o Restr Pwyntiau’r Byd a phump o Restr Pwyntiau Ewrop, yn cael eu cadarnhau Ddydd Sul, 29 Awst, ar ôl i Bencampwriaeth Johnnie Walker ddod i ben yn Gleneagles. Yna, bydd Montgomerie’n enwi ei dri chwaraewr Detholiad y Capten i gwblhau ei dîm o 12 ar yr un diwrnod.

Penderfynir ar yr wyth chwaraewr a fydd yn cymhwyso’n awtomatig ar gyfer Tîm UDA ar 15 Awst, 2010, pan ddaw Pencampwriaeth PGA UDA i ben yn Whistling Straits. Bydd Capten UDA, Corey Pavin, yn cyhoeddi pedwar chwaraewr Detholiad y Capten ar 7 Medi, 2010.