
Mae Her SWALEC Cymru’n bwriadu efelychu’r Bencampwriaeth Agored trwy gynnig cystadleuaeth gymhwyso, felly mae yna gyfle i unrhyw golffiwr proffesiynol Cymreig ddilyn ôl-troed seren y Daith Ewropeaidd, Rhys Davies.
Mae digwyddiadau cymhwyso’n brin ar y brig ym myd golff y dyddiau hyn, ond bydd unrhyw chwaraewyr proffesiynol Cymreig nad ydyn nhw, fel arall, yn gymwys i chwarae yn y digwyddiad yn cael cyfle i hawlio un o’r tri lle sy’n weddill Ddydd Llun 23ain Awst, ar gwrs Cenedlaethol Cymru yng Ngwesty Hamdden Golff a Sba y Vale, a bydd y brif dwrnamaint yn dechrau deuddydd yn ddiweddarach ar 25ain Awst.
Y llynedd, roedd Davies yn enillydd cartref Her SWALEC Cymru a fu’n help i lansio’i yrfa ar y Daith Ewropeaidd sydd, ers hynny, wedi'i weld yn cipio’r Trophée Hassan II a safle ymhlith y deg ar frig Tabl Cystadleuwyr y Ras i Dubai.
Craig Smith, Kyron Sullivan, Mark Laskey a Tim Dykes yw’r chwaraewyr sydd eisoes wedi’u gwahodd eleni i chwarae yn rhai o’r digwyddiadau ar Daith yr Her, sef y gylchdaith islaw prif Daith Ewropeaidd y PGA sy’n cynnwys Her SWALEC Cymru.
“Bu Rhys Davies yn cystadlu yn y digwyddiad hwn, diolch i wahoddiad oddi wrth Gwpan Ryder Cymru, gan ei fod yn chwarae ar y Daith Asiaidd ar y pryd,” esboniodd Prif Weithredwr Cwpan Ryder Cymru, Rob Holt.
“Fe enillodd pan fu’n rhaid iddo chwarae tyllau ychwanegol, gan sicrhau lle ar Daith yr Her, a defnyddiodd hyn i ennill lle ar y Daith Ewropeaidd lawn. Ers hynny, mae wedi mynd o nerth i nerth ac mae’n enghraifft berffaith i ddangos yr hyn y gall y digwyddiad hwn ei wneud os yw’r ddawn gennych.
“Mae hwn yn gyfle gwych i unrhyw chwaraewr proffesiynol Cymreig chwarae mewn pencampwriaeth o’r safon uchaf yng Nghymru.
“Rydym eisoes wedi gwahodd rhai chwaraewyr proffesiynol Cymreig sydd â thras brofedig yn y gêm, ond mae yna dri gwahoddiad sy’n weddill ac roedden ni am eu dyrannu mor deg â phosibl.
“Beth allai fod yn well na digwyddiad cymhwyso, â’r holl ddrama a chyffro y bydd yn ei gynnig? Hefyd, bydd gobaith da iawn y gall unrhyw un a fydd yn dangos ei fod yn chwarae’n dda yn agos at y digwyddiad ei hun fynd ymlaen i gael hwyl ar y gêm yn y prif gystadleuaeth ar yr un cwrs.
“Y gobaith yw y bydd hyn yn caniatáu i ni wneud yn fawr o’r cyfleoedd unigryw hyn ar gyfer golffwyr proffesiynol Cymreig, gan ddilyn ôl-troed Craig Williams, Sion Bebb a Rhys, sydd oll wedi ennill y digwyddiad ar dir cartref.”
Mae’r cyfle i chwarae yn nigwyddiad Her SWALEC Cymru, yn ogystal â chyfres o ddigwyddiadau eraill ledled Ewrop, yn un o’r buddion i Gymru yn sgil croesawu 38ain Gornest Cwpan Ryder i Westy Hamdden y Celtic Manor yn ddiweddarach eleni.
I unrhyw un gofrestru yn y digwyddiad cymhwyso ar gyfer Her SWALEC Cymru, mae’n rhaid iddo fod yn golffiwr proffesiynol sy’n Gymro, boed trwy enedigaeth, neu oherwydd bod ganddo riant neu nain neu daid Cymreig, neu oherwydd yr ystyrir ei fod yn Gymro pan mae’n rhoi cynnig ar ddigwyddiadau proffesiynol.
Mae yna dri lle ar gael, ac mae’n costio £25 i gofrestru. Mae ffurflenni cais ar gael oddi wrth Cwpan Ryder Cymru 2010 Cyf, e-bost amy.watkins@rydercupwales2010.com neu gallwch ffonio 02920 475231. Dydd Mercher, 28ain Gorffennaf yw’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais.