Arddangosfa Dreftadaeth Cwpan Ryder yn dod i Gymru

Dyddiad Cyhoeddi: 28/06/2010

Bydd Arddangosfa Dreftadaeth Cwpan Ryder, sy’n darlunio hanes cyfoethog un o ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf symbylol y byd, i’w gweld yng Nghasnewydd a Chaerdydd trwy’r haf wrth i ornest Cwpan Ryder 2010 ddod yn agosach ac yn agosach.

Dechreuodd Cwpan Ryder ym 1927 fel gornest rhwng chwaraewyr proffesiynol Prydain Fawr a’r Unol Daleithiau, a bydd yr Arddangosfa Dreftadaeth yn adrodd stori Cwpan Ryder o’i wreiddiau gwylaidd i heddiw.

Bydd casgliad rhyfeddol ac unigryw o Bethau Cofiadwy Cwpan Ryder, yn amrywio o fwydlenni a rhaglenni hanesyddol wedi’u llofnodi i anrhegion ac offer y timau, yn ganolog i’r arddangosfa ac, i ddod â’r cyfan yn fyw, bydd ffotograffau o’r gornestau cyntaf hynny fwy nag 80 mlynedd yn ôl trwodd i ornestau diweddar.

Bydd Arddangosfa Dreftadaeth Cwpan Ryder yn ymweld â Theatr a Chanolfan Celfyddydau Glan yr Afon yng Nghasnewydd yn gyntaf, rhwng 24 Gorffennaf a 19 Awst.

Yna bydd yr arddangosfa’n symud i Brif Ddinas Cymru i’w harddangos yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd rhwng 22 Awst a 23 Medi.

Ac yn olaf, pan fydd llygaid y byd chwaraeon yn canolbwyntio ar yr ornest Cwpan Ryder gyntaf i’w chynnal yng Nghymru, bydd yr arddangosfa yn y pentref pebyll yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor ar gyfer y miloedd o wylwyr a fydd yn heidio i weld Tîm Ewropeaidd Colin Montgomery yn cystadlu yn erbyn Tîm yr Unol Daleithiau dan arweiniad Corey Pavin rhwng 27Medi a 3 Hydref.

Meddai David Wright, Gweithredwr Treftadaeth a Chefnogaeth Aelodau, Cymdeithas Golffwyr Proffesiynol: “Dyma enghraifft gyfareddol o Gwpan Ryder yn ymgysylltu â’r gymuned leol. Mae’r arddangosfa hon yn dod â threftadaeth gyfoethog y digwyddiad gorau oll i dimau golff yn fyw. Bydd ymwelwyr yn cael cipolwg hudolus ar sut mae Cwpan Ryder wedi esblygu dros y blynyddoedd.”

Meddai’r Cynghorydd Matthew Evans, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: “Dyma gyfle gwych arall i bobl leol ddod yn gyfarwydd iawn â Chwpan Ryder. Bydd hanes y digwyddiad a sut iddo ymlwybro i’n dinas ni yn gwneud arddangosfa gyfareddol, a bydd yn ychwanegu at y rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau a fydd yn mynd rhagddyn nhw ledled Casnewydd i ddathlu 2010.”

Meddai Mike Tooby, Cyfarwyddwr Dysgu, Rhaglennu a Datblygu Amgueddfa Cymru: “Wrth roi cartref i’r arddangosfa hon, mae Amgueddfa Cymru wrth ei fodd o allu cefnogi ymgyrch â phroffil mor uchel dros Gymru a fydd, yn ddiamau, o fudd i’r genedl yn rhyngwladol.

“Yn yr wythnos sy’n arwain at Gwpan Ryder, byddwn yn lansio arddangosfeydd o rai o ddarnau celfyddyd ceinaf Cymru. Yn eu plith fydd ein casgliad o beintiadau Argraffiadwyr poblogaidd a rhyngwladol enwog. Ar ôl llwyddiant mynd â’r darnau hyn ar daith yn UDA yn ddiweddar, rydym yn gwybod yr argraff y bydd y sêr rhyngwladol hyn o Ewrop yn ei gwneud ar ymwelwyr â Chymru.”

Ychwanegodd Rob Holt, Prif Weithredwr Cwpan Ryder Cymru: “Fe fydd yna lawer o gyfleoedd i gyhoedd Cymru ac ymwelwyr â'r ardal rannu profiad Cwpan Ryder 2010. Un o'r rhain fydd cyfle i fynd i weld - yn un o'r ddau leoliad canol dinas - arddangosfa ryfeddol o bethau cofiadwy Cwpan Ryder. Er mwyn gael blas gwych ar y digwyddiad o flynyddoedd a fu, rydw i’n annog pawb i wneud amser i fynd i weld yr arddangosfa.”

Lleoliadau a Dyddiadau Arddangosfa Dreftadaeth Cwpan Ryder:-

24 Gorffennaf – 19 Awst: Theatr a Chanolfan Celfyddydau Glan yr Afon, Kingsway, Dinas Casnewydd (Mynediad am Ddim)

22 Awst – 23 Medi: Amgueddfa Cymru, Parc Cathays, Caerdydd (Mynediad am Ddim)

27 Medi – 3 Hydref: Gwesty Hamdden y Celtic Manor, Dinas Casnewydd (Deiliaid Tocyn Cwpan Ryder yn Unig)