
23 Mehefin 2010: Wrth i’r genedl ddechrau cyfri’n ôl o 100 o ddiwrnodau i ornest Cwpan Ryder yng Nghymru, cyhoeddir mai Katherine Jenkins yw'r artist cyntaf o fri i gadarnhau y bydd yn perfformio yn ‘Croeso i Gymru’, sef cyngerdd i ddathlu lansio Cwpan Ryder 2010 yng Nghymru yn ddiweddarach eleni. Yno hefyd fydd yr archseren, Catherine Zeta Jones CBE, a fydd yn dychwelyd adref i gymryd rhan yn y digwyddiad mawreddog gydag artistiaid eraill di-ri.
Bydd yr archsêr Cymreig yn cymryd y llwyfan yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd Ddydd Mercher 29 Medi 2010 a bydd y ddwy ohonyn nhw ymhlith llawer o sêr rhyngwladol o'r arenâu adloniant a golff i ddathlu dechrau Cwpan Ryder yn ystod y sioe arbennig hon a fydd yn cael ei darlledu am 90 munud ar y teledu. Hefyd ar y llwyfan, fel rhan o’r noson, fydd Timau Ewrop a’r Unol Daleithiau a fydd yn cael eu cyflwyno’n swyddogol i’r gynulleidfa.
Fel artist sydd wedi gwerthu miliynau o recordiau, a’n dawn gerddorol hynod ein hunain, mae Katherine Jenkins yn act Gymreig o’r radd flaenaf sydd mewn sefyllfa berffaith i fod yn un o’r perfformwyr a, heb os, fe fydd yn uchelbwynt yn y sioe hon a fydd yn llawn sêr trawiadol. Mae Katherine eisoes wedi perfformio i’r Frenhines, y Prif Weinidog a’r Pab, a nawr bydd yn perfformio i anrhydeddu digwyddiad mwyaf mawreddog golff, a bydd yn croesawu timau Ewrop a’r Unol Daleithiau fel ei gilydd i’w mamwlad. Mae Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru wedi mynegi ei gefnogaeth i’r digwyddiad.
Meddai Katherine Jenkins, wrth siarad am ei hymddangosiad: ‘Rydw i wrth fy modd o ddod yn ôl i Gymru ar gyfer y cyngerdd arbennig iawn hwn i lansio’r digwyddiad hwn o fri. Braint o’r mwyaf yw croesawu’r digwyddiad mwyaf mawreddog a chydnabyddedig yn y calendr golffio i Gymru. Dydw i ddim yn meddwl bod Cymru wedi gweld unrhyw beth ar y raddfa hon o’r blaen, felly mae’n gyffrous iawn bod yn rhan ohono!’
Hefyd yn falch o ddychwelyd i’w hannwyl mamwlad yw'r seren Hollywood a’r anwylyn o Abertawe, Catherine Zeta Jones CBE. Fel un o allforion ceinaf Cymru, bydd Catherine Zeta Jones yn dod â chrandrwydd a glamor Hollywood i’r llwyfan wrth iddi agor y cyngerdd dathlu unigryw hwn a chroesawu’r gynulleidfa fyd-eang i’w hannwyl mamwlad ar gyfer y dathliad trawiadol hwn.
Gyda Catherine a Katherine wedi’u cadarnhau, nid mater o ferched yn unig yw hwn; yn wir, bydd y côr meibion enwog, Only Men Aloud, yn helpu i fywiogi’r noson. Côr o Gaerdydd, a enillodd Wobr BRIT yn y categori Clasurol (Albwm y Flwyddyn) yw hwn, a daeth yn genedlaethol enwog fwy neu lai dros nos pan enillodd sioe oriau brig y BBC ‘Last Choir Standing’ ac mae’r côr, sy'n cynnwys 19 o ddynion, yn siŵr o fachu’r gynulleidfa unwaith eto â pherfformiad cofiadwy yn Croeso i Gymru.
Bydd Cwpan Ryder Ewrop yn creu hanes wrth iddyn nhw gyflwyno Cwpan Ryder 2010, sef y digwyddiad chwaraeon mwyaf erioed i’w gynnal yng Nghymru, â chynulleidfa teledu fyd-eang anferthol. Cynhelir y digwyddiad golff mwyaf hwn i dimau bob dwy flynedd, mewn lleoliadau yn Ewrop a’r Unol Daleithiau bob yn ail. Dyma’r tro cyntaf y mae Cwpan Ryder wedi’i gynnal yng Nghymru, a bydd y twrnamaint yn mynd rhagddo yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor yn Ninas Casnewydd rhwng 1 a 3 Hydref 2010, gan arddangos y genedl i gynulleidfa wirioneddol fyd-eang.
Meddai Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru: ‘Mae Cymru gyfan yn edrych ymlaen at Gwpan Ryder, a fydd yn ddigwyddiad anferthol i ni. Bydd Croeso i Gymru’n ffordd ddelfrydol i gicdanio ychydig o ddiwrnodau gwych a bydd yn dangos i’r byd y croeso Cymreig cynnes sy’n aros am ymwelwyr o ledled y byd.’
Meddai Capten Tîm Ewrop Cwpan Ryder, Colin Montgomerie: ‘Mae hon yn ffordd ragorol i ddathlu Cwpan Ryder 2010 yng Nghymru, a bydd yn rhoi cyfle arall eto i ymwelwyr fwynhau lletygarwch gwych Cymru. Mae’r digwyddiad Croeso i Gymru’n ychwanegiad rhagorol at yr holl gynlluniau sydd eisoes ar waith.’
Bydd tocynnau’n mynd ar werth am 11am Ddydd Mercher 23 Mehefin o’r lleoedd a ganlyn:
Swyddfa Docynnau Stadiwm y Mileniwm 08442 77788 /www.ticketmaster.co.uk/ www.seetickets.co.uk
Prisiau tocynnau: £25 Safonol, £40 Seddi premiwm cyfyngedig, £60 Tocyn teulu, £15 i bobl dan 16 oed
Bydd £5 o bob tocyn a werthir yn cael ei roi i elusen (gweler y Nodiadau i Olygyddion)
I gael mwy o wybodaeth am Croeso i Gymru, ewch i www.welcome2wales.co.uk