Newyddion Newydd

Ryder Cup Wales Seniors Open


Search News
There are currently 10 articles available.
Cafodd John Bland, o Dde Affrica, ddiweddglo gwych i hawlio'i drydydd teitl ar Daith Chwaraewyr Hŷn Ewrop, gan ennill o un ergyd yng Nghystadleuaeth Agored Chwaraewyr Hŷn Cwpan Ryder Cymru yng Nghlwb Brenhinol Porthcawl.
 

Ceisiodd Bob Cameron ddod â’r wên yn ôl i wyneb chwaraeon Lloegr yng Nghlwb Brenhinol Porthcawl pan enillodd y blaen ar ôl ail rownd Cystadleuaeth Agored Chwaraewyr Hŷn Cwpan Ryder Cymru ar Daith Chwaraewyr Hŷn Ewrop.
 

Er nad yw’r wybodaeth ar led yn lleol hyd yma, mae dod yn ymwybodol o golff twyni, a dod i’w werthfawrogi, wedi helpu’r Americanwr Mike Cunning i ennill y blaen ar ôl rownd gyntaf Cystadleuaeth Agored Chwaraewyr Hŷn Cwpan Ryder Cymru yng Nghlwb Brenhinol Porthcawl.
 

Bydd dychwelyd i Glwb Golff Brenhinol Porthcawl i amddiffyn ei deitl Cystadleuaeth Agored Chwaraewyr Hŷn Cwpan Ryder Cymru yn brofiad emosiynol i Bertus Smit, gan mai dyma lle cipiodd ei fuddugoliaeth gyntaf ar Daith Chwaraewyr Hŷn Ewrop, a oedd fel rhywbeth allan o stori tylwyth teg.
Bertus Smit
 

Bydd Ian Woosnam yn brwydro unwaith eto yn erbyn rhai o’r enwau mwyaf blaenllaw yn myd golff Chwaraewyr Hŷn Ewrop yng Nghystadleuaeth Agored Chwaraewyr Hŷn Cwpan Ryder Cymru (Mehefin 18-20) mewn partneriaeth ag Admiral.
Ian Woosnam
 

Os yw unrhyw un yn edrych am yr anrheg perffaith ar gyfer Sul y Tadau, mae Cystadleuaeth Chwaraewyr Hŷn Cwpan Ryder Cymru’n cynnig ateb heb ei ail, gan y bydd gwersi golff rhad ac am ddim yn mynd rhagddyn nhw ar ddiwrnod olaf y twrnamaint.
 

Mewn blwyddyn dyngedfennol i golff Cymru, mae cwmni yswiriant Admiral, sef un o gyflogwyr mwyaf Cymru, wedi ymuno â Chwpan Ryder Cymru fel partner swyddogol Cystadleuaeth Agored fawreddog Chwaraewyr Hŷn Cwpan Ryder Cymru i roi hwb pellach i’r gêm wrth inni nesáu at ornest Cwpan Ryder.
 

Bydd Cystadleuaeth Agored Chwaraewyr Hŷn Cwpan Ryder Cymru’n dychwelyd i Glwb Golff Brenhinol Porthcawl am yr ail flwyddyn yn olynol pan fydd y twrnamaint yn dathlu ei ben-blwydd yn ddeg oed rhwng 18 a 20 Mehefin.
 

Hyrywyddiad Sul y Tadau yn profi yn hynod boblogaidd.
 

Gyda llai na blwyddyn i fynd, mae’r cyfri’n ôl wedi dechrau o ddifrif ar gyfer un o ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf y byd ac, fel rhan o’r cyfnod sy’n arwain i fyny at 38ain cystadleuaeth Cwpan Ryder, mae Cwpan Ryder Cymru’n cynllunio rhaglen digwyddiadau haf o’r radd flaenaf.
 

There are currently 10 articles available. [ Previous ] [ Next ]