Cymru - cart ref Cwpan Ryder 2010

Croeso i Hafan Cwpan Ryder 2010

Celtic Manor
Yma gallwch ddarganfod sut y gall pawb yng Nghymru elwa yn yr hirdymor, ymhell i ffwrdd o'r ddinas groeso, Casnewydd, a'r twrnamaint ei hun. Gallwch ddarganfod ble i 'gysgu a chwarae' mewn gwlad sy'n llawn dop o feysydd golff bendigedig. Gallwch ddysgu am y cyfleoedd ar gyfer busnes a buddsoddi y mae Cwpan Ryder 2010 yn eu creu a gallwch ddarllen â'ch llygaid eich hunan am yr effaith llesol mae eisoes yn ei gael ar economi ac isadeiledd Cymru.

Twristiaeth a busnes

Am wlad fach, mae Cymru'n llwyddo gwasgu tipyn i mewn: 641 castell, 687 milltir o arfordir - ac o gwmpas 200 o gyrsiau golff.

Yn ogystal â hyn, mae bron 500 o gwmnïau rhyngwladol wedi dewis y genedl fach ond medrus hon fel y ganolfan ddelfrydol i dargedu marchnadoedd y DU ac Ewrop. Gyda'i gilydd, maent wedi buddsoddi dros $28 biliwn a chreu 78,000 o swyddi.

Felly peidiwch ag aros tan 2010. Mae gwybodaeth am fyw a gweithio yng Nghymru - neu am ymweld â ni yn unig, mae'r cyfan yma.