Un o'r ymrwymiadau yn ein cynnig llwyddiannus am Gwpan Ryder 2010 oedd sefydlu Cronfa Dreftadaeth gwerth £2 filiwn. Roedd Cronfa Dreftadaeth Cwpan Ryder Cymru 2010 ar gael i awdurdodau lleol a chlybiau golff yng Nghymru, gan roi cefnogaeth ariannol iddynt ddatblygu cyfleusterau golff cyhoeddus hygyrch o ansawdd. Y nod oedd i annog pobl o bob oed, o bob lliw a llun i ymddiddori yn y gêm ac i drawsnewid cynnwrf anferth a bri Cwpan Ryder 2010 yn fudd parhaol ar gyfer y rheini sydd yn newydd i'r gêm.
Rhoddwyd pwyslais ar greu cyrsiau 'talu a chwarae' am bris rhesymol ledled y wlad a fydd yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd- a merched yn enwedig- i gael profiad o 'golff fel y dylai fod'; yn hwyl, yn iachus, yn ddiddorol ac yn hygyrch. Mae traddodiad golffio wedi'i wreiddio'n ddwfn yng Nghymru, gydag o amgylch 200 o gyrsiau, ond dyma ble mae dyfodol y gêm - mewn cyfleusterau cymunedol croesawgar sy'n llawn cyfarpar.
“Bydd Cwpan Ryder yn cael effaith anferthol ar Gymru mewn cymaint o ffyrdd, ond prin yw’r datblygiadau sydd mewn gwell gosodiad na Pharc Gwledig y Gnoll,” meddai.
“Dyma un o’r prif atyniadau twristiaeth yn yr ardal, ac nawr bydd golff yn fwy canolog i hyn, sy’n dangos ein hymrwymiad i wella’r gêm ar bob lefel ac ym mhob ardal o Gymru.”
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.
Gorllewin - Parc Gnoll; Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
Derbyniodd y prosiect grant o £102,644 i uwchraddio’r cwrs 9twll a oedd eisoes yn bodoli. Agorodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, y cyfleuster yn swyddogol ar 23ainEbrill 2010.

Gogledd - Clwb Golff Abergele
Derbyniodd y prosiect grant o £50,072 i ddatblygu maes dreifio pedwar bae dan do ar gyfer unrhyw dywydd, yn ogystal ag ardal pytio ac addysgu’r gêm fer. Dychwelodd y golffiwr Cymreig a chwaraewr Cwpan Solheim, Becky Brewerton, i’w chlwb cartref i agor y cyfleuster newydd yn swyddogol ar 10fedMehefin 2010.

Canolbarth - Clwb Golff Aberdyfi
Derbyniodd y prosiect grant o £15,000 i greu canolfan ymarfer dan do, gyda grîn pytio artiffisial pedwar twll, pedair gorsaf Nintendo Wii gyda sgriniau teledu wedi’u gosod ar y wal a goleuadau ac addurniadau newydd. Agorodd Cadeirydd Cwpan Ryder Cymru, John Jermine, y cyfleuster newydd yn swyddogol ar 27ainTachwedd 2008.

De - Clwb Golff Llantrisant a Phontyclun
Derbyniodd y prosiect grant o £27,940 i ddatblygu cyfleusterau i gynnwys ardal addysgu dan do gyda baeau ac ardal pytio. Agorodd y golffiwr Cymreig, Sion Bebb, y cyfleuster newydd yn swyddogol ar 19egMawrth 2010 yn y clwb lle dysgodd i chwarae fel aelod iau.