Wrth i Cwpan Ryder 2010 ddod yn nes bob dydd, mae golff ar y brig yng Nghymru ac rydyn ni, gyda'n sefydliadau partner, yn bwriadu ei wneud hyd yn oed yn well. Fe ddewch o hyd i agwedd croesawgar, brwdfrydig ar draws y wlad ac isadeiledd sydd wedi'i gynllunio i annog pawb i ddechrau cymryd rhan yn y gêm ddiddorol, iachus hon - yn enwedig menywod a phlant.
Mae Cymru yn gadarn ymroddedig i ddatblygu golff sy'n ddymunol i fenywod. Nid cyd-ddigwyddiad yw ein bod ni'n croesawu un o'r twrnameintiau mwyaf ar Daith Ewrop i Fenywod. Ond tu hwnt i'r 'merched blaenllaw' fe ddewch o hyd i raglen brysur o hyfforddi menywod gyda sesiynau un pwrpas ar gyfer dechreuwyr a chwaraewyr profiadol fel ei gilydd.
Yng nghanol ein hymgyrch i gael pawb i chwarae golff mae yna wirionedd syml; mae Cymru yn lle arbennig iawn i chwarae golff. Lle bynnag yr ewch chi, fe ddewch chi o hyd i gyrsiau ardderchog mewn golygfeydd hynod, digonedd o gyfleusterau a llawer i'w wneud ar ôl chwarae'r twll olaf.
"Mae pobl yn aml yn meddwl bod y gêm yn rhy ddrud ac na allan nhw fforddio chwarae. Ein gwaith ni yw cynyddu cyfleoedd cost-isel ond hefyd hyrwyddo'r ffaith nad yw cost yn rhwystr mewn gwirionedd i'r nofis. Y gost ar gyfartaledd ar gyfer aelodaeth iau yng Nghymru yw £65 y flwyddyn yn unig - £1.25 yr wythnos!"
Brian Davies, Datblygu Golff Cymru