Mae Cymru yn gyrchfan golff eithriadol am sawl rheswm. Beth am gwrs Clwb Brenhinol Dewi Sant, sy'n ymddangos yn y rhestr o 100 o Brif Gyrsiau y Golf Digest. Neu gwrs dramatig Aberteifi uwchben y clogwyni, â'i olygfeydd aruthrol. Neu Gradoc, lle mae panorama o Fannau Brycheiniog i'w gweld wrth y nawfed twll-digon i darfu'n llwyr ar y golff. Heb os, fel golffiwr sy'n ymweld, mae digonedd o ddewis i chi. Yn y wlad gymharol fach hon, mae yn agos at 200 o gyrsiau i ddewis ohonynt!
Lle bynnag y chwaraewch chi, byddwch chi'n darganfod 'golff fel y dylai fod'. Hynny yw, golff hamddenol mewn amgylchedd ysbrydoledig, am gost realistig a mynediad hawdd i amserau chwarae. Dychwelyd i wir ysbryd golff yw hyn: her a hwyl; llwyddiant a difyrrwch.
Wedi i chi chwarae'r bêl olaf, byddwch am wneud y mwyaf o brofiad y 19eg twll. Mae croeso mawr i chi wneud. Manteisiwch ar fwyd arbennig a thriniaethau sba i'ch ymlacio, ewch i'r theatr neu ewch am drip o ddifrif o gwmpas y siopau. Mynnwch flas ar Gymru gyfan, boed yn gildraethau cysgodol Sir Benfro, drama un o fynyddoedd Eryri neu ddisgleirdeb glan dŵr Caerdydd, chi biau'r dewis.
"Dydych chi ddim yn gyrru i Gymru, yn hytrach yn ymlithro dros un o ddwy Bont Hafren, dim ond awr a hanner ar hyd yr M4 o Heathrow, Llundain"
Mae hyn oll yn nes nag yr ydych yn ei feddwl. Mae'r cysylltiadau ffordd, rheilffordd ac awyr â Chymru yn arbennig o dda ac yn effeithlon iawn. Gallwch fod yn croesi un o ddwy bont ryfeddol Hafren ymhen dim ond dwy awr ar ôl gadael Llundain neu Faes Awyr Heathrow. Ac wrth i'r anhygoel Gwpan Ryder brysur agosáu, ni fu erioed well amser i gofleidio golff yn y ffordd Gymreig. Anghofiwch am ffurf a ffurfioldeb y tŷ clwb, dewch i fwynhau tipyn o golff fel y dylai fod!