Cymru - Y Genedl sy'n Croesawu Cwpan Ryder 2010

Gwybodaeth Twrnamaint

Buddugoliaeth i Bland yng Nghystadleuaeth Agored Chwaraewyr Hŷn Cwpan Ryder Cymru

Cafodd John Bland, o Dde Affrica, ddiweddglo gwych i hawlio'i drydydd teitl ar Daith Chwaraewyr Hŷn Ewrop, gan ennill o un ergyd yng Nghystadleuaeth Agored Chwaraewyr Hŷn Cwpan Ryder Cymru yng Nghlwb Brenhinol Porthcawl.

Cafodd y gŵr 64 oed sgôr o 71, sef un dan par, yn y rownd derfynol, gan drechu Angel Franco o Paraguay mewn modd dramatig. Nid oedd y naill yn gallu ennill y blaen ar y llall pan roeddent ddau dan par ar ôl 16 twll, ond cafodd Franco, a oedd dri grŵp o flaen Bland, bogi ar y 18fed twll ac yna cafodd y gŵr o Dde Affrica byrdi ar yr 17eg dwll par pump i roi rhywfaint o gyfle iddo gael ei wynt ato wrth ddod i’r twll olaf. Fel mae’n digwydd, roedd hyn yn hanfodol, gan i bêl Brand fynd i’r byncer o’r ti, gan arwain at bogi yn y diwedd.

Daeth cydwladwr Bland, sef Chris Williams, yn gydradd ail ar sgôr o 72, yn gyfartal â’r par, ond ildiodd Bob Cameron, a oedd ar y blaen dros nos, ei fantais ar y naw twll olaf, pan gafodd bedwar bogi yn olynol a dau bogi dwbl i gael sgôr o 78. Hefyd, pallodd heriau’r ddau Albanwr Ross Drummond a Gordon Brand Jnr, a oedd ymhlith y rhai ar y blaen dros nos, â rowndiau o 83 i Drummond a 75 i Brand Jnr.

Meddai Bland, a gafodd dri byrdi ac eryr i ddod yr ail enillydd o Dde Affrica yn olynol yn y digwyddiad hwn, yn dilyn buddugoliaeth Bertus Smit: “Roedd y cwrs yn gryn her heddiw, ond fe atebais yr her yn dda a gwneud popeth yn iawn – heblaw am fy ergyd i’r byncer ar y twll olaf pan ddechreuais i deimlo braidd yn nerfus.

“Yr allwedd oedd dewis y ffon iawn. Weithiau, ni allwch chi gredu pa mor bell mae’r bêl yn mynd ar y cwrs yma. Roedd y byrdi ar yr 17eg dwll yn un mawr. Roeddwn i ar ei hôl hi o ryw un neu ddwy ergyd y rhan fwyaf o’r dydd, a phan roeddwn i ar yr 16eg twll fe sylweddolais fod Mr Franco wedi cael bogi ar y 18fed twll.

“Felly roedd llwyddo i gael y byrdi hwnnw ar yr 17eg dwll yn anferthol – a llawn cystal i mi lwyddo yn hynny o beth o ystyried y peth hurt i mi ei wneud ar y twll olaf.

“Mae hwn yn un o’r cyrsiau twyni gorau yn y byd, ac mae’r chwaraewyr yn wirioneddol fwynhau dod yma. Nid oes twll drwg ar y cwrs cyfan; mae’n fendigedig. Bu’n wythnos wych ac rwyf wrth fy modd o’i choroni â buddugoliaeth.”

Pan ofynnwyd i Bland beth oedd yr allwedd i lwyddiant chwaraewyr o Dde Affrica yn y digwyddiad hwn, dyma oedd ei ateb: “Wn i ddim, ond bu’n gwpl o flynyddoedd da i ni, a bu’n gwpl o wythnosau da i ni hefyd gyda’r Sbringbocs yma yng Nghymru ac yn ennill. Trueni nad yw’r tîm pêl-droed yn gwneud cystal yng Nghwpan y Byd, ond rydw i’n fwy o ddyn rygbi fy hun.

“Ond mae Cwpan y Byd yn mynd yn dda iawn gartref, i bob golwg, ac mae’n ymddangos eu bod nhw wedi cael hwyl dda iawn ar ei groesawu."

Cafodd Franco rediad trawiadol o bum byrdi’n olynol o’r pedwerydd i’r wythfed twll, a chafodd un arall ar y 12fed twll par pump, er i bogis yn olynol ar y 14eg a’r 15fed twll fynd â’i sgôr yn ôl i un dan par. Daeth trobwynt y rownd ar y 18fed twll lle roedd bogi’n ddigon i’w weld yn colli.

“Mae’n siom fawr, yn enwedig gan i John gael bogi ar y twll olaf hefyd,” meddai Franco, sydd wedi dod yn ail chwe thro ar Daith y Chwaraewyr Hŷn.

(Diwedd)