Ian Woosnam yw llysgennad swyddogol Tîm Cymru ar gyfer Cwpan Ryder 2010.
Gwnaeth Cwpan Ryder Cymru wahodd Capten Ewrop, a oedd yn fuddugol yng ngornest Cwpan Ryder 2006 yn Iwerddon, i gymryd rôl arweiniol.
"Roedd ennill y cais i gynnal Cwpan Ryder 2010 yn rhoi'r cyfle i Gymru ddweud wrth y byd beth sydd ganddi i'w gynnig.
"Yn y dyddiau cynnar, roedd rhai pobl yn arfer gofyn i mi ymhle yn Lloegr yr oedd Cymru? Diolch byth, mae'r cwestiynau hynny yn y gorffennol ac fel llysgennad swyddogol, mae'n wych bod yn rhan o'r ymgyrch i hyrwyddo Cymru fel lleoliad golffio a thwristiaeth.
"Dw i ddim yn synnu bod brwdfrydedd cais Cymru wedi ennill. O gynnwrf y cyhoeddiad cyntaf hwnnw, datblygir y syniadau a'r cyfleoedd o fis i fis, a'n swyddogaeth ni fel rhan o Dîm Cymru yw helpu i weithredu'r rhain."
IAN WOOSNAM
"Nid gornest golff tri diwrnod yng Nghasnewydd yn unig mo'r Cwpan Ryder yng Nghymru, ond cyfle i ddangos cymwysterau busnes, diwylliant a thwristiaeth y genedl i'r byd. Mae Ian yn llysgennad arbennig dros y wlad, ac fel rhan o Dîm Cymru, bydd yn chwarae rôl bwysig yn hyrwyddo proffil Cymru ar lwyfan byd-eang ac yn atgyfnerthu ein safle fel lleoliad twristiaeth, golffio a busnes rhyngwladol." Andrew Davies, Gweinidog Cymru dros Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau.
Er mai Barbados yw ei brif breswylfa bellach, mae Ian yn aml yn ymweld â'i gartref ac mae'n hoffi chwarae ar ei gwrs cartref yn Llanymynech. Mae ganddo garafán y tu ôl i'r ti cyntaf yn Aberdyfi, ac mae'n ei gyfrif yn un o'i hoff gyrsiau o hyd.
Oeddech chi'n gwybod…?
Mae wedi chwarae mewn wyth Cwpan Ryder ac ef yw'r trydydd Cymro i fod yn gapten ar dim Ewrop, gan ddilyn yn ôl troed Dai Rees a Brian Huggett.
Hyd heddiw, mae yn un o ddim ond dau chwaraewr Cwpan Ryder Ewropeaidd i ennill yr uchafswm o bedwar pwynt o'r gornestau dau bedwarawd a dwy gêm bedair pêl.
Enillodd Dwrnamaint y Meistri yn yr Augusta National ym 1991.
Fe oedd y chwaraewr cyntaf i gipio Pencampwriaeth Match Play y Byd mewn tri degawd - ac yn 2001, yn 43 oed, yr enillydd hynaf - gan guro Padraig Harrington mewn gornest derfynol epig.
Mae e wedi cynrychioli Cymru 17 gwaith yng Nghwpan Golff y Byd.
Mae wedi llwyddo i ennill 44 twrnamaint proffesiynol yn ystod ei yrfa, sydd yn fwy nag unrhyw golffiwr Prydeinig cyfoes.
Ef oedd y chwaraewr cyntaf i ennill £1miliwn mewn un tymor.
Yn fachgen, gweithiai ar fferm ei Dad, ac ar ôl i'r gwaith gael ei wneud, byddai wedyn yn cael chwarae golff. Creda bod y cryfder sydd ganddo o ganlyniad i'r holl flynyddoedd o waith fferm, yn enwedig codi byrnau gwair trwm a gyrru'r tractor yn blentyn.
Fel golffiwr uchelgeisiol, roedd hi'n galed cael dau ben llinyn ynghyd, ac fe deithiodd ef a'i ffrindiau mewn cerbyd gwersylla a chwarae yn y Daith Ewropeaidd. Dim bwydlenni egsotig yn y dyddiau hynny, ond diet sefydlog o ffa pob a chreision.
Fel un o'r rhai oedd yn taro'r bêl bellaf ar y Daith, edmygwyd ei swing syml, rythmig ac anghymhleth drwy'r byd. Roedd ei swing yn ymddangos yn ddiymdrech, tebyg i sbring dorchog yn dad-ddirwyn. Hyd y dydd heddiw, mae'n un o'r ergydwyr gorau â ffon haearn.