Cymru - Y Genedl sy'n Croesawu Cwpan Ryder 2010

Gwybodaeth am Gludiant

Gan ddibynnu ar y pecyn hollgynhwysfawr rydych wedi’i ddewis ar gyfer Cwpan Ryder 2010, fe fydd yna ddau fath penodol o gludiant a fydd yn mynd â chi i’r Celtic Manor ar gyfer digwyddiad Cwpan Ryder 2010.

Park and Ride map

Park and Ride map
Ysgrif lawrlwytho: Lawrlwytho fersiwn PDF fwy o’r map Parcio a theithio [1042 Kilo bytes PDF File]

Mynd a dod i ornest Cwpan Ryder 2010

Mae’r trefniadau Parcio a Theithio ar gyfer Cwpan Ryder 2010 yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Dinas Casnewydd, rhwng 28 Medi a 3 Hydref wedi'u cynllunio i alluogi gwylwyr i fynd a dod i'r ornest rhwng Ewrop a'r Unol Daleithiau'n ddiogel ac yn llyfn.

Bydd yna ddau safle Parcio a Theithio ar waith ar gyfer Gwesty Hamdden y Celtic Manor. Mae’r naill ger Tŷ Tredegar (Parcio a Theithio’r Gorllewin) a defnyddir Cyffordd30 i adael yr M4 i'w gyrraedd, ac mae'r llall yn Llanwern (Parcio a Theithio’r Dwyrain) a defnyddir Cyffordd 23A i adael yr M4 i'w gyrraedd. Rhaid i wylwyr sy’n bwriadu mynd i’r ornest brynu pàs maes parcio dilys ar gyfer eu cerbyd ymlaen llaw i bob diwrnod y byddan nhw’n mynychu, er mwyn cael mynediad i’r safleoedd Parcio a Theithio. Dylai’r siwrnai o’r ddau safle Parcio a Theithio gymryd rhyw 20 munud.

Mae’n rhaid i’r holl wylwyr sy’n teithio mewn car neu ar fws ddefnyddio’r safleoedd Parcio a Theithio penodol hyn. Anogir gwylwyr i rannu ceir gan y codir ffi o £20 y dydd am “Bàs Cludiant” fesul cerbyd yn hytrach na fesul person, ac mae hyn yn cynnwys y gwasanaeth gwennol rhwng y lleoliadau Parcio a Theithio a Gwesty Hamdden y Celtic Manor.

Oherwydd rhesymau’n ymwneud â diogelwch personol a diogelwch eiddo, ni fydd cerbydau preifat, tacsis na cherddwyr yn cael mynediad i Westy Hamdden y Celtic Manor pan fydd yr ornest yn mynd rhagddi. Fe fydd yna arosfannau a ffafrir i dacsis fynd â phobl iddyn nhw, a chasglu pobl ohonyn nhw, yn safle Parcio a Theithio'r Gorllewin (Tŷ Tredegar) ac ni chodir unrhyw ffi ar dacsis a fydd yn dod i mewn i’r maes parcio. Gall y rheiny a fydd yn cyrraedd mewn tacsi ddefnyddio’r gwasanaeth gwennol yn rhad ac am ddim unwaith y bydd eu tocynnau wedi’u hawdurdodi. Bydd tocynnau â llun adnabod arnyn nhw’n cael eu gwirio, a bydd chwiliadau diogelwch yn cael eu cwblhau yn ardal pob mynediad.

Dylai pawb sy’n cyrraedd y safleoedd Parcio a Theithio, neu’n dychwelyd iddyn nhw, ddefnyddio’r gwasanaeth gwennol. Ni fydd yna unrhyw ffurf arall ar gludiant i Westy Hamdden y Celtic Manor. Bydd bysiau’n rhedeg rhwng dydd Mawrth a dydd Sul yn ystod wythnos y digwyddiad, a hynny rhwng 6am a 9.30pm.

I’r rheiny a fydd yn defnyddio’r trên, fe fydd yna wasanaeth bws gwennol o Orsaf Casnewydd i’r Arhosfan Bysiau i Bobl Bwysig Iawn yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor. Bydd tocynnau â llun adnabod arnyn nhw’n cael eu gwirio, a bydd chwiliadau diogelwch yn cael eu cynnal yn y gwesty hamdden ger yr Arhosfan Bysiau i Bobl Bwysig Iawn. Codir £10 am docyn dwyffordd ar gyfer y gwasanaeth gwennol, ac mae ar gael i’r rheiny sy’n teithio ar y trên yn unig.

Cludiant Tir

Bydd cleientiaid sy’n dewis opsiwn pecyn Cludiant Tir yn cael eu casglu o’u gwesty dynodedig a’u cludo i’r Celtic Manor ar gyfer Cwpan Ryder 2010. I ddychwelyd i’ch gwesty, fe fydd angen ichi fynd i’r arhosfan ddynodedig a mynd ar y bws nesaf a fydd ar gael a fydd yn mynd â chi’n ôl i’ch gwesty. Bydd amserlenni ar gael yn agosach at yr amser ar gyfer y gwasanaeth Cludiant Tir.

Os ydych chi’n teithio o’r tu allan i Gymru, yna gwelwch y ddolen a ganlyn www.highways.gov.uk/rydercup