Cymru - Y Genedl sy'n Croesawu Cwpan Ryder 2010

 

About Us


Cwpan Ryder Cymru 2010
 

Y nodau / ein gweledigaeth

Ein Nodau

£2 filiwn ar gyfer mwy o gyrsiau talu a chwarae
£2 filiwn ar gyfer mwy o gyrsiau talu a chwarae

Nod CRC yw gwireddu ymrwymiadau'r sector cyhoeddus a sefydlwyd yn rhan o gynnig llwyddiannus Cymru ar gyfer Cwpan Ryder 2010. Mae ein hymrwymiadau'n cynnwys:

  • Llwyfannu a hyrwyddo cyfres o ddigwyddiadau golff sylweddol ar draws Cymru bob blwyddyn
  • Sefydlu Cronfa Dreftadaeth werth £2 miliwn i ddatblygu mwy o gyrsiau talu a chwarae ar draws y wlad
  • Cydweithio'n agos â'n partneriaid i elwa i'r eithaf ar y manteision i'r economi, i dwristiaeth ac i ddatblygu golff a ddaw yn sgil cynnal y digwyddiad

Royal St. David's Harlech
Royal St. David's Harlech

Ein Gweledigaeth yw codi proffil Cymru ar y llwyfan rhyngwladol ac i Gwpan Ryder fod o fudd i bawb yng Nghymru cyn y twrnamaint hanesyddol ac am yn hir wedi hynny.







"Fel un o'r digwyddiadau chwaraeon mwyaf clodfawr yn y byd, mae Cwpan Ryder yn cynrychioli cyfle heb ei ail i Gymru. Fel un o ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf mawreddog y byd, mae Cwpan Ryder yn cynrychioli cyfle unwaith ac am byth i Gymru. Ers ennill y cais, ceir cydnabyddiaeth fod Cymru’n gyrchfan golff rhyngwladol bellach, a bydd croesawu 38ain gystadleuaeth Cwpan Ryder yn ein helpu ni i feithrin ein henw da am golff a lletygarwch gwych, gan ddenu ymwelwyr newydd i Gymru am flynyddoedd i ddod. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddangos “Golff fel y Dylai fod” i’n hymwelwyr a fydd yn gwarantu atgofion golff i’w trysori.”

John Jermine, Cadeirydd Cwpan Ryder Cymru