Ymgorfforwyd Cwpan Ryder Cymru 2010 Cyf. (CRC) yn 2003.Cwmni preifat ydyn ni wedi'i sefydlu i wneud y gorau posibl o effaith gadarnhaol cynnig llwyddiannus Cymru i groesawu Cwpan Ryder 2010, ac i gyflawni rhwymedigaethau'r cynnig. Mae CRC, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac sy'n cael ei ariannu'n rhannol ganddo, yn derbyn buddsoddiad a nawdd cyhoeddus. Mae yna 12 aelod o'r bwrdd sy'n cynrychioli ein partneriaid allweddol amrywiol, gyda Chadeirydd annibynnol, John Jermine.
Rydyn ni'n naturiol yn gweithio'n agos gydag Undebau Golff Cymru a Gwesty'r Celtic Manor, Casnewydd lle fydd y gêm yn cael ei chynnal ym mis 1af – 3ydd Hydref 2010.
O'r diwrnod cyntaf, mae CRC wedi bodoli i wneud yn fawr o'r cyfle 'unwaith yn unig' ac i sicrhau bod Cwpan Ryder 2010 yn cael effaith gadarnhaol barhaol ar draws Cymru ar ac oddi ar y cyrsiau golff. Mae ein Rhaglen flynyddol 'Haf o Golff', sy'n helpu i amlygu Cymru fel cyrchfan golff rhyfeddol, wedi cynhyrchu canlyniadau pendant yn barod. Yn enwedig wedi'i gyfuno gydag ymgyrch 'golff fel y dylai fod' Bwrdd Croeso Cymru. Mae nifer yr ymwelwyr wedi cynyddu mwy na 30% ers 2002, gyda 140,000 o chwaraewyr sy'n ymwelwyr yn mwynhau cyrsiau golff Cymru yn 2004 yn unig.
Mae twristiaeth golff yng Nghymru yn tyfu'n gyflym a bydd yn tyfu hyd yn oed yng nghynt wrth i ni wneud y gorau o nesâd yr ornest enwog. Mae CRC yn ceisio sicrhau bod yr hyn sy'n dda ar gyfer ein golff yn dda ar gyfer y wlad. Dyna pam yr ydyn ni yma.
"Mae 80% o'n hymwelwyr am y tro cyntaf yn bwriadu dychwelyd"
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â'n partneriaid, cliciwch y cysylltau hyn: