Cymru - Y Genedl sy'n Croesawu Cwpan Ryder 2010

De Ddwyrain Cymru

Sut y mae Cwpan Ryder o Fudd i Dde Ddwyrain Cymru

Clwb Golff Brenhinol Porthcawl
Clwb Golff Brenhinol Porthcawl

Mae'r effaith gadarnhaol ledled y wlad sy'n deillio o gynnig llwyddiannus Cymru am Gwpan Ryder 2010 wedi cyrraedd pob cornel o Dde Ddwyrain Cymru yn barod ac all yr effeithiau buddiol ddim ond cynyddu wrth i'r ornest ddod yn nes.

Sefydlwyd grŵp marchnata golff o'r enw Greens of Southern Wales a chyda chefnogaeth Bwrdd Croeso Cymru mae'n ceisio gwneud y mwyaf o'r gweithgarwch twristiaeth sy'n tyfu. Yn y cyfamser, y mae buddion codi proffil golff yng Nghymru yn gyffredinol yn eu hamlygu eu hunain yng Nghlwb Golff Brenhinol Porthcawl, sydd wedi gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn y 100 clwb mwyaf blaenllaw y tu allan i'r UD y Golf Digest, yn rhif 15 nodedig iawn!

Rhys Davies, enillydd Her SWALEC Cymru 2009
Rhys Davies, enillydd Her SWALEC Cymru 2009

Os oes angen prawf fod cystadleuaeth Cwpan Ryder yn dod â buddion eang yn ei sgil, gellir gweld hyn yng Nghyrchfan Golff a Sba y Vale, sydd wedi bod yn llwyddiannus wrth groesawu digwyddiad Taith yr Her yn 2005, 2007, 2008 a 2009 a'r Gystadleuaeth Agored i Chwaraewyr Hŷn yn 2006. Mae Her SWALEC Cymru'n dychwelyd i'r cwrs ym mis Awst 2010. Gan ddenu nawdd FIRSTPLUS  a SWALEC, mae'r digwyddiadau'n cynhyrchu incwm ar gyfer yr economi leol, ac mae sylw rhyngwladol ar y teledu'n cynyddu proffil yr ardal fel cyrchfan twristiaeth.

"Mae Contractwyr Alun Griffiths o'r Fenni wedi ennill y cytundeb i reoli datblygiadau'r cwrs yng Ngwesty'r Celtic Manor, Casnewydd - enghraifft berffaith o golff lleol a busnes lleol mewn partneriaeth"


Draw o hudoliaeth y darllediadau teledu a'r chwaraewyr proffesiynol yn brwydro, mae chwe ysgol yn Nhorfaen yn cynnal prosiectau Tri-Golff ac yn ffurfio cysylltiadau â Chlwb Iau Talywain.

O'r meistri i'r plant iau brwdfrydig, mae Cwpan Ryder 2010 yn gweithredu fel catalydd pwerus, yn cynhyrchu brwdfrydedd, twristiaeth a busnes da trwy Dde Ddwyrain Cymru.