Mae'r effaith gadarnhaol ledled y wlad sy'n deillio o gynnig llwyddiannus Cymru am Gwpan Ryder wedi cyrraedd pob cornel o Dde Orllewin Cymru yn barod ac all yr effeithiau buddiol ddim ond cynyddu wrth i'r ornest ddod yn nes.
Er mwyn gwneud y gorau o'r cynnydd yn nifer yr ymwelwyr a thwristiaid golff, sefydlwyd grŵp marchnata golff o'r enw Cool Golf gyda chefnogaeth Bwrdd Croeso Cymru. Mae BCC hefyd yn rhedeg rhaglenni hyfforddi 'Gyrru Newid' i geisio cynorthwyo clybiau i wneud y mwyaf o'u busnes a chynyddu cyllid. Yn y De-orllewin, mae clybiau golff Hwlffordd, Treflwyn a Threfdraeth bob un wedi mynychu.
Mae cwrs mwyaf newydd Cymru - Clwb Golff a Gwledig Penrhyn Machynys a ddyluniwyd gan Nicklaus – wedi cynnal Pencampwriaeth Menywod Ewrop, Cymru. Mae rhai fel Laura Davies wedi chwarae yn y digwyddiad hwn a mwy na 10,000 o bobl wedi dod i wylio.

Dangosir yn glir sut y mae tyfiant yn y golff lleol yn golygu busnesau lleol iach gan Tonick Watering, cwmni datgodwyr dyfrio teuluol o Cross Hands, sydd nawr yn cyflenwi dros 1,800 o gyrsiau golff o amgylch y byd.
Gan ganolbwyntio'n gadarn ar golffwyr ieuengaf y De Orllewin, cynhaliwyd sesiynau Tri-Golff mewn dros 20 ysgol. Cynhaliwyd sesiynau golff go iawn hefyd yng nghlwb golff Trefdraeth a hyrwyddwyd mewn mwy na 50 o ysgolion lleol.
"Mae Clwb Golff a Gwledig Penrhyn Machynys yn enghraifft ddisglair o rymoedd adfywio golff! Bellach, mae yna gwrs pencampwriaeth, datblygiad tai a chlwb iechyd ar dir a fu unwaith yn anialwch. Yn 2009, dynodwyd Machynys yn Ganolfan Ragoriaeth Ranbarthol Undeb Golff Cymru â chyfleusterau newydd ar gyfer chwaraewyr gorau Cymru i ddatblygu a gwella’u gêm.”