Cymru - Y Genedl sy'n Croesawu Cwpan Ryder 2010

Y Gogledd

Sut y mae Cwpan Ryder o Fudd i Ogledd Cymru

Mae'r effaith gadarnhaol ledled y wlad sy'n deillio o gynnig llwyddiannus Cymru am Gwpan Ryder 2010 wedi cyrraedd pob cornel o Ogledd Cymru yn barod ac all yr effeithiau buddiol ddim ond cynyddu wrth i'r ornest ddod yn nes.

Royal St David’s

Royal St David’s
Mae twristiaeth golff yn amlwg yn ffynnu. Mae nifer yr ymwelwyr tramor â Chlwb Golff Brenhinol Dewi Sant yng Ngwynedd wedi cynyddu'n aruthrol ers cynnal Pencampwriaeth Agored i Chwaraewyr Hŷn Cwpan Ryder Cymru yno ac mae'r cwrs yn ymddangos nawr yn y 100 cwrs mwyaf blaenllaw y tu allan i UDA y Golf Digest.
 
Nefyn
Nefyn
Mae Bwyty Castle Cottage ymhlith nifer o straeon am newyddion da economaidd. Mae Jacqueline a Glyn Roberts wedi rhedeg eu busnes yn Harlech ers 15 mlynedd, ond maent wedi gweld eu busnes yn dyblu yn ei faint dros y flwyddyn ddiwethaf. Maent yn cysylltu'r llwyddiant rhagorol hwn â chodi proffil y rhanbarth oherwydd Pencampwriaeth Agored i Chwaraewyr Hŷn Cwpan Ryder Cymru ac ymgyrchoedd marchnata golff Bwrdd Croeso Cymru.
 
Cynhaliwyd Cystadleuaeth Agored Chwaraewyr Hŷn Cwpan Ryder Cymru yng Nghlwb Brenhinol Dewi Sant rhwng 2001 a 2005; yn 2005, croesawodd Harlech ddigwyddiad Her Cwpan Ryder Cymru; ac, yn fwy diweddar, cynhaliwyd Cystadleuaeth Agored Chwaraewyr Hŷn Cwpan Ryder Cymru 2007 a 2008 yng Nghonwy. Croesawyd Pencampwriaeth Merched Ewrop S4C Cymru i Glwb Golff Brenhinol Dewi Sant yn 2009, a chynhelir hi yng Nghonwy yn 2010.

"Cynhyrchir pumdeg y cant o'n busnes trwy golff. Mae Pencampwriaeth Agored i Chwaraewyr Hŷn Cwpan Ryder Cymru, llwyddiant parhaol Clwb Golff Brenhinol Dewi Sant a chynnydd enfawr yn nhwristiaeth golff i Ogledd Cymru wedi rhoi'r hyder i ni ymestyn ein busnes. Heb golff, fydden ni byth wedi gwneud hyn."

Merch yn chwarae golff
Merch yn chwarae golff

Mae Clwstwr Marchnata Golff o'r enw clwstwr Arfordir y Cambria a sefydlwyd ac a gefnogir gan Croeso Cymru, yn cynnwys Clwb Golff Brenhinol Dewi Sant, Nefyn, Aberdyfi, Pwllheli, Porthmadog, Abersoch a Chaernarfon.

Yn y maes hollbwysig o ddatblygu golff - lle meithrinir dyfodol y gêm - y mae Gogledd Cymru yn gweithio'n galed. Yng Nghlwb Golff Caergybi er enghraifft, cynhelir sesiynau hwyl a hyfforddiant ar gyfer dechreuwyr yn gyson gyda hyfforddwyr hyfforddedig o'r clwb. Cynhelir cystadlaethau yn aml hefyd gyda'r bwriad o annog merched i barhau i chwarae.

O Fôn i Wrecsam, mae Gogledd Cymru yn manteisio ac yn ymateb i'r cyfleoedd a ddarperir gan Cwpan Ryder. Ni all ein busnesau, chwaraewyr golff ac ymwelwyr ond ennill.

Meddai Brenda Wyn Evans o'r Comisiwn Digwyddiadau, "Mae'r Comisiwn Digwyddiadau yn falch o gael noddi Cwpan Ryder Cymru 2010 ac rydym wedi gweithio gyda'n gilydd o'r blaen i ddod â digwyddiadau mawr golff i Ogledd Cymru. Mae'r digwyddiadau'n amlygu'r hyn sy'n wych am Ogledd Cymru, ar y cwrs ac oddi arno, ac maent hefyd yn dod â budd mawr i'r economi lleol yn ystod wythnos y digwyddiad."

Digwyddiadau Haf Llawn Golff 2010 yng Ngogledd Cymru

12fed – 15fed Awst
Pencampwriaeth Merched Ewrop Cymru S4C
Clwb Golff Conwy (Sir Gaernarfon), Conwy

31ain Awst – 2il Medi
Pencampwriaeth PGA Cenedlaethol Cymru Cwpan Ryder Cymru 2010
Clwb Golff Brenhinol Dewi Sant, Harlech