Cymru - Y Genedl sy'n Croesawu Cwpan Ryder 2010

Buddion i Gymru

Da i golff ac yn dda i Gymru

Clwb Golff Nefyn a'r Cylch
Clwb Golff Nefyn a'r Cylch

Mae Cwpan Ryder 2010 yn llawer mwy na thridiau o'r golff gorau. Mae'n gyfle hirdymor i godi proffil Cymru o amgylch y byd ac i gyflawni manteision pendant i'r economi, i dwristiaeth, i'r gymdeithas ac i chwaraeon ar draws y wlad. Cynlluniwyd rhaglen amrywiol o weithgareddau i arwain at y twrnamaint, er mwyn ysbrydoli sgileffaith ar chwaraeon a'r economi a fydd byw am amser hir ar ôl i'r chwaraewyr proffesiynol chwarae eu hergydion olaf.

Mae CRC, ar y cyd â'n holl sefydliadau partner, yn gweithio'n galed i sicrhau y gellir cyflawni'r manteision posibl hyn.

“Yn ôl yr amcangyfrif, mae croesawu’r digwyddiad i Gymru’n werth mwy na £70m. Gyda momentwm a thwf yn cynyddu wrth inni nesáu at y digwyddiad, mae’n eithaf posibl y bydd yn werth mwy fyth."

Darllediad symudol
Darllediad symudol

Rydym hefyd yn hyderus y bydd y twrnamaint, y paratoi amdano a'r hyn a ddaw wedyn, yn creu cannoedd o swyddi mewn twristiaeth a sectorau cysylltiedig, yn enwedig o amgylch y ddinas groeso, Casnewydd.

Fel gwlad i ymweld â hi ac i'w mwynhau, caiff Cymru ei harddangos i'r byd yng Nghwpan Ryder 2010. Ystyriwch y digwyddiad fel y cyfle gorau erioed i hyrwyddo'r wlad.

"Caiff Cwpan Ryder ei ddarlledu i 750 miliwn o gartrefi mewn 100 o wledydd, a bydd 2000 o newyddiadurwyr o amgylch y byd yn rhoi sylw iddo. Mae www.rydercup.com yn cael 28 miliwn o ymweliadau yn ystod wythnos y digwyddiad"

Yn 2004, darlledwyd Cwpan Ryder i dros 180m o bobl mewn dros 100 o wledydd."

Ac mae'r golff hefyd wrth gwrs. Yn naturiol, mae hwn yn gyfle unigryw i ddatblygu mwy ar Gymru fel lleoliad golff o'r radd flaenaf ar gyfer gwyliau golff. Yn 2005, cynhwyswyd tri o gyrsiau Cymru - Cwrs Brenhinol Porthcawl, Cwrs Brenhinol Dewi Sant a Chwrs Aberdyfi - yn rhestr Golf Digest o'r 100 cwrs rhyngwladol gorau y tu allan i'r UDA am y tro cyntaf.

Rhwng 2004 a 2009 bu cynnydd o 32% yn nifer y twristiaid golff. Yn 2004, roedd yna 139,300 o ymwelwyr golff a oedd yn werth £23 miliwm, a chynyddodd hyn i 184,000 o ymwelwyr yn 2009 a oedd yn werth £34.7 miliwn

Diwydiant yng Nghymru
Diwydiant yng Nghymru

Mae'r stori'n un o adeiladu ar gryfderau. Bellach ystyrir bod Cymru'n lleoliad golff o safon ryngwladol, ac mae wedi gwaredu'i statws 'y gyfrinach orau'. Mae ein digwyddiadau blynyddol 'Haf o Golff' yn amlwg wedi cyfrannu. Mae'r cydbwysedd o gyrsiau o safon, golygfeydd syfrdanol a chroeso cynnes i bob math o chwaraewyr, yn cyfuno i greu 'golff fel y dylai fod', a dyfodiad Cwpan Ryder 2010 yw'r unig gydnabyddiaeth sydd ei hangen arnoch.