Sefydlwyd Cwpan Ryder Cymru 2010 Cyf (CRC) yn 2003 ar ôl cynnig llwyddiannus Cymru i gynnal Cwpan Ryder 2010.
Ein swyddogaeth yw gweithio gyda phartneriaid allweddol, gan gynnwys Bwrdd Croeso Cymru, Awdurdod Datblygu Cymru, Chwaraeon Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd, Newport Unlimited, Undeb Golff Cymru, ac Undeb Golff Menywod Cymru i sicrhau bod Cwpan Ryder 2010 hyd yn oed yn fwy na thwrnamaint rhagorol. Rydym hefyd yn cydweithio'n agos â Gwesty'r Celtic Manor.
Rydym i gyd yn deall ei fod yn dod â chyfleoedd anferthol i hyrwyddo Casnewydd, y ddinas groeso, a Chymru gyfan; fel lleoliad ar gyfer chwaraeon, lle i ymweld ag e, lle i fuddsoddi ynddo a gwlad i fyw ac i weithio ynddi. Cylch gorchwyl CRC yw manteisio i'r eithaf ar yr holl gyfleoedd hyn, a rhyddhau eu potensial i bawb, ar yr un pryd â chodi proffil Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.
"Mae mentrau eisoes wedi'u sefydlu i ddefnyddio Cwpan Ryder 2010 i arddangos cymwysterau Cymru o ran busnes a thwristiaeth i'r byd. Mae gan Gymru gyrsiau golff arbennig â golygfeydd bendigedig, fel y cwrs syfrdanol uwchlaw clogwyni Nefyn, sydd wedi'i gymharu â chwarae golff ar fwrdd llong ryfel"